Mae Iechyd a Lles yn ran greiddiol o gwricwlwm Ysgol Sant Baruc. Ond nid blaenoriaeth ein hysgol ni yn unig yw Iechyd a Lles. Mae deddfwriaeth ddiweddar Llywodraeth Cymru yn brawf o’u hymrwymiad hwythau i’r nod cenedlaethol hwn.
Cyflwynwyd polisi yn 2022, trwy gytundeb Cyd-weithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, i ddarparu prydoedd ysgol am ddim i bob un plentyn ysgol gynradd hyd at 2025.
Bydd hyn yn cael ei gyflwyno fesul blwyddyn gan ddechrau gyda’r disgyblion ieuengaf.
Tan hynny, cost prydiau ysgol ydy £2.45 y diwrnod, a dylid talu drwy system ParentPay.
Mae plant mewn teuluoedd sydd yn derbyn budd-daliadau yn gallu hawlio pryd ysgol am ddim drwy’r Awdurdod Lleol.
I hawlio’r hyn sy’n eiddo i chi, neu i wirio a ydych chi yn gymwys, ewch i’r ddolen yma: gwneud cais nawr
Yn Ysgol Sant Baruc, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau menter arloesol er mwyn darparu bwyd i ysgolion. Maent wedi dechrau cwmni arlwyo eu hunain - Y Big Fresh Catering Company - sy’n dychwelyd unrhyw elw maen nhw’n ei gynhyrchu i ysgolion ym Mro Morgannwg.
Cewch hyd i’r fwydlen yma:
Gyda llaw, diolch i’r Ddeddf Safonau a Threfnidaeth Ysgolion a gyflwynwyd gan Llywodraeth Cymru yn 2013, maen rhaid i awdurdodau Lleol ddarparu brecwast am ddim i bob un plentyn ysgol gynradd yng Nghymru.
Mae’n rhaid i’r bwyd brecwast gwrdd â safonau iechyd a maeth sydd wedi’u hamlinellu yn y rheoliadau uchod.