logo.svg
Arfbais yr ysgol

Mae dechrau pennod newydd wedi rhoi cyfle i ni ddiwygio arfbais yr ysgol. 

Gweithion ni gyda chwmni LimeGreenTangerine i loywi ein Draig Goch gyfarwydd. Ar ei newydd wedd, mae’r Ddraig Goch - symbol o’n Cymreictod - dal yn ganolog ond nawr mae yna dipio’r cap i’n tref. Sylwch ar y tywod a’r môr, rhythm llanw a thrai di-baid, anadlu mewn a ma’s ein Barrybados. Yn gylch i’r celf coeth mae enw ein hysgol. Dyma ni - ein lle, ein cynefin, ein gwlad, ein iaith wedi eu gosod mewn un cylch bach perffaith. 

Rydym ni wrth ein bodd gyda’r arfbais newydd. 

Ond, gadewch i ni fod yn hollol glîr:

Tra bod arfbais yr ysgol wedi newid rhyw ychydig, dydyn ni ddim yn disgwyl i rieni newid wardrôb eu plant. Bydd croeso cynnes yn Ysgol Sant Baruc i siwmperi, gardiganau a bagiau sydd wedi’u haddurno gan yr hen arfbais. 

old uniform.png
Ond, gadewch i ni fod yn hollol glîr:

Tra bod arfbais yr ysgol wedi newid rhyw ychydig, dydyn ni ddim yn disgwyl i rieni newid wardrôb eu plant. Bydd croeso cynnes yn Ysgol Sant Baruc i siwmperi, gardiganau a bagiau sydd wedi’u haddurno gan yr hen arfbais. 

Fe gewch chi o hyd i bopeth rydych chi ei angen yn siop Ruckleys ar Ffordd Holton.

Diolch i haelioni rhieni, â gwaith di-flino y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon, mae digonedd o wisg ysgol ail-law ganddon ni yn yr ysgol. Os gwelwch yn dda, cysylltwch â post@santbaruc.cymru er mwyn ymholi.

uniform-form.svg
Grant Gwisg Ysgol

Os ydy eich plentyn chi’n gymwys i dderbyn Prydiau Ysgol am Ddim, gallwch wneud cais am gymorth ariannol tuag at gostau gwisg ysgol. 

Gall teuluoedd sy’n gymwys wneud cais os oes ganddyn nhw blant rhwng Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 6 (5 mlwydd oed hyd at 11 mlwydd oed). Mae grant gwahanol ar gael os ydy eich plentyn ar fîn dechrau’r ysgol uwchradd.

Mae Plant Sy’n Derbyn Gofal yn gymwys, p’un ai eu bod nhw’n derbyn Prydiau Ysgol am Ddim ai peidio. 

Gallwch hawlio am bob plentyn, unwaith y flwyddyn. 

Mae’r grantiau yn cael eu rheoli a’u trefnu gan yr Awdurdod Lleol - Cyngor Bro Morgannwg. Am ragor o wybodaeth, ac er mwyn dechrau’r broses o wneud cais, ewch i: Pupil Development Grant - Vale of Glamorgan Council