
Gan bwyll
Mae cydberthynas uniongyrchol rhwng presenoldeb da a chynnydd da. Rydyn ni hefyd yn gwybod, y mwyaf mae’r plant yn bresennol, y mwyaf ydy eu boddhad wrth fod yn yr ysgol. Oherwydd hynny, gofynnwn i chi ystyried eich cais am wyliau yn ofalus. Cyfrifoldeb y pennaeth ydy rhoi caniatâd i fynd ar wyliau yn ystod y tymor ysgol. Annogwn yn gryf iawn na ddylech chi drefnu gwyliau o fewn pythefnos cyntaf tymor yr Hydref.