Oes ganddoch chi gwestiwn am dei neu grys? Pendroni am waith cartref neu wyliau? Dyma’r man i gael gafael ar bopeth rydych chi am ei wybod ynglyn â bywyd yn Ysgol Gymraeg Sant Baruc.
Addysg Cyfrwng Cymraeg
Mae Addysg Cyfrwng Cymraeg i bawb. Os oes diddordeb gennych chi mewn manteision gydol oes i’ch plentyn, yna mae rhoi bywyd dwyieithog yn rywbeth dylech chi ei ystyried. Mewn gwirionedd, ledled y byd, mae’n arferol i fod yn rhugl mewn mwy nag un iaith. Yn ei hanfod, mae Addysg Cyfrwng Cymraeg yn gwella cyfleoedd, nid eu rhwystro nhw.
O’r bore cyntaf yn y Feithrin yn dair oed hyd at ddiwrnod olaf Blwyddyn 2 bron a bod yn saith oed, mae’r plant wedi’u trochi’n llwyr yn y Gymraeg. Mae trochi llwyr yn arwain at fod yn llwyr rhugl. Mae hynny’n dechrau gyda geiriau ac ymadroddion rhwng tair a pum mlwydd oed cyn, yn y rhan helaeth iawn o achosion, bod plant yn rhugl wrth ysgrifennu, darllen a siarad Cymraeg erbyn eu bod yn saith mlwydd oed.
Os ydy’ch plentyn chi’n hŷn na saith mlwydd oed, ac rydych chi’n ystyried pontio o ysgol Saesneg, mae Awdurdod Lleol Bro Morgannwg wedi sefydlu Canolfan Iaith er mwyn caffael y Gymraeg yn gyflym cyn pontio i ysgol brif ffrwd.
Er mwyn cael gyrru’r car, mae’n rhaid cael pasio prawf a chael trwydded i brofi eich bod yn gymwys. Does dim trwydded i gael siarad Cymraeg! Yn ein cymuned ni, rydyn ni’n dwlu clywed unrhyw Gymraeg. Cewch chi ddim eich cywiro a byddwch chi ddim yn teimlo methiant. Siarad, gwrando a deall yw’r nod, nid rhyw berffeithrwydd sy’n byw mewn llyfrau ac amgueddfeydd.
Mae sawl rhaglen gloywi iaith i gael - ar-lein ac mewn dosbarth. Mae rhai o’n rhieni wedi defnyddio apiau tebyg i Say Something in Welsh a Duolingo er mwyn cael gwared o’r rhydu sy’n digwydd gydag amser.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch y dolenni yma:
Dysgu Cymraeg - Cyngor Bro Morgannwg
Menter Iaith Bro Morgannwg - Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg ym Mro Morgannwg
Cysylltu â Ni
Y ffordd orau o gysylltu gyda’r ysgol ydy drwy e-bost neu ffonio’r swyddfa:
Pwyswch yma i e-bostio'r swyddfa
01446 749009
Bydd yr adran yma yn ddefnyddiol i chi. Y gwir amdani yw, y peth gorau i’w wneud ydy e-bostio neu ffonio’r swyddfa.
Mae bod yn hygyrch a chyfathrebu’n glîr yn bwysig i ni. Yn ystod oriau ysgol, mae’r athrawon yn brysur wrth eu gwaith - gallwch chi ddychmygu bod cyrraedd y ffôn neu cadw ar ben e-byst yn anodd tra bod 30 o blant o gwmpas y lle!
Mae e-bostio neu ffonio’r swyddfa yn ffordd wych o gysylltu os oes rhywbeth brys, neu i wneud apwyntiad.
Mae dwy o nosweithiau rhieni wedi’u trefnu yn ystod y flwyddyn. Mae rhain yn gyfle i drafod cynnydd eich plentyn, neu i holi cwestiynau.
Mae athrawon yn ysgrifennu adroddiad blynyddol unwaith y flwyddyn sydd yn disgrifio cynnydd eich plentyn. Yn dilyn yr adroddiad, mae cyfle pellach i drafod yr adroddiad gyda’r athro.
Hysbyswch yr ysgol cyn gynted â phosib - gallwn ni dawelu meddwl eich plentyn eich bod chi’n iawn a beth yw’r cynllun. Mae’r achlysuron yma yn brin ond maen nhw’n digwydd o bryd i’w gilydd. Mae llawer ohonom ni’n rieni ac rydym ni’n deall y straen gall hyn achosi. Y peth allweddol i’w wneud ydy ein hysbysu ni mor fuan ag sy’n bosib.
Os ydy eich amgylchiadau chi’n golygu bod hyn yn digwydd yn aml, dylech chi ystyried gwneud cais am le yn y Clwb Brecwast sy’n rhad ac am ddim, neu gwneud defnydd o’r Clwb Carco ar ôl ysgol.
Gofalu am y plant ydy ein blaenoriaeth ni. Y peth cyntaf sy’n digwydd ydy bod staff sydd wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf yn gwneud yn siwr bod eich plentyn chi’n iawn.
Os oes angen mân gymorth cyntaf (e.e. golchi cwt, rhoi plastr, clais bach), dylech chi ddisgwyl nodyn hysbysebu o’r llyfr damweiniau bach oddi wrth yr athro ar ddiwedd y dydd. Bydd hwnnw yn nodi be ddigwyddodd a sut y gofalwyd am eich plentyn.
Os oes unrhyw ergyd i’r pen, mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hysbysebu bob tro drwy neges destun. Efallai, o dderbyn y neges, byddwch yn dymuno cysylltu gyda ni i wirio fod popeth yn iawn. Byddai croeso mawr i chi wneud hynny.
Ar yr achlysuron prin rheiny pan fo anaf yn fwy difrifol, mae’r ysgol yn ffonio rhieni neu ofalwyr yn syth i ofyn iddyn nhw gasglu eu plant er mwyn iddyn nhw dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt.
Gallwch ddeall felly, pam ei bod hi’n allweddol bod eich manylion cyswllt cyfredol gan yr ysgol. Er mwyn diweddaru eich manylion cyswllt, cysylltwch â’r swyddfa.
Ar bob cyfri! Mae ganddon ni gaeau pêl-droed, neuadd, stiwdio a llain galed ar gael i’w llogi ar hyd y flwyddyn. Mae’r manylion i gyd yn yr adran Llogi Cyfleusterau.
Bywyd Ysgol
Mae plant yn datblygu ar gyfraddau gwahanol. Mae’n bwysig bod dysgu yn hwyl - gall hynny fod yn anodd os oes plentyn yn synhwyro pwysau neu ddisgwyliad; dydyn nhw ddim eisiau eich siomi chi.
Eich sgwrs gyntaf ydy un gyda’r athro dosbarth. Dylech chi ofyn am gael siarad gyda nhw a gwrando ar eu barn broffesiynol nhw o ran cynnydd eich plentyn a’u hoedran.
Os ydych yn poeni am rywbeth penodol, mae’n ddefnyddiol gallu bod yn benodol iawn am beth yw hwnnw. Beth am feddwl yn y termau yma:
Beth yw’r peth?
Pryd ydych chi’n sylwi arno fe?
Pa effaith mae’n ei gael?
Bydd e-bost i post@santbaruc.cymru yn sicrhau bod eich pryderon yn cael eu delio â nhw yn gyfrinachol ac sensitif.
Caiff gwaith cartref ei osod ar Google Classroom drwy’r platfform dysgu HWB. Mae amlder a dwysder gwaith cartref yn cael ei addasu yn ôl oedran y plant. Bwriad tasgau cartref ydy atgyfnerthu dysgu sydd wedi digwydd yn y dosbarth a chryfhau’r cyswllt rhwng y cartref a’r ysgol.
Mae plant yn derbyn llyfr darllen yn wythnosol. Mae bagiau llyfrau yn ddefnyddiol iawn er mwyn cario llyfrau yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.
Tuag at oedolion mae plant yn edrych am eu modelau rôl. Y peth gorau gallwch chi wneud er mwyn eich plentyn ydy eich bod chi yn frwdfrydig am yr ysgol, eu hannog nhw i adeiladu perthasau da - ac, yn fwy pwysig na dim - dathlu eu hymdrechion gyda nhw.
Perthnasau
Mae plant ar eu helw cymaint o gael perthnasau da gyda’u rhieni a’u gofalwyr. Gwnewch amser i chwarae gyda nhw; mwynhewch eu cwmni nhw - d’wedwch wrthyn nhw yn ddiffuant ac yn aml yr hyn rydych chi’n ei hoffi ac edmygu amdanyn nhw.
Gosodwch ffiniau cadarn, clir. Byddwch yn ffynnon ddiwaelod o gariad a chlôd.
Pan maen nhw’n cael teimladau mawr (sydd, gyda llaw, yn hollol arferol) byddwch yn ymwybodol o’r temtasiwn i ymateb gyda theimladau mawr eich hunain: dicter, codi cywilydd a’u dwrdio. Yn hytrach, cymaint ag sy’n bosib, gwnewch eich cariad, amynedd a goddefgarwch yn fwy na’u teimladau nhw.
Gallwch wneud hyn mewn drwy gynnal naws chwareus, ysgafn cyn:
Tiwnio mewn i’r teimlad: “Galla i weld dy fod ti’n teimlo’n hynod, hynod rwystredig. Ydw i’n iawn am hynny?”
Derbyn a chydnabod y teimlad: “Ydy, mae peidio cael gwneud hynna y foment hon yn beth rhwystredig.”
Bod yn chwilfrydig: “Tybed ai yr unig beth rwyt ti eisiau gwneud nawr yw hynna a gallwn ni ddim. Tybed wyt ti’n teimlo mod i ddim yn gwrando arnot ti? Tybed wyt ti’n teimlo mod i byth yn gwrando arnot ti?”.
Dangoswch empathi: “A, wela i. Mae hynny’n deimlad annifyr yn tydy? Neb yn gwrando arnot ti. Dwi’n flîn taw dyna sut rwyt ti’n teimlo.”
Mae hyn yn waith caled ac, yn y byr dymor, gall y canlyniadau fod yn amrywiol. Ond, yn y dyfodol, byddan nhw’n diolch i chi a byddwch chi’n ddiolchgar am fod yn rhiant i blentyn sy’n cydnabod ei deimladau, ac yn troi am help i ymdopi gyda nhw.
Gwaith Ysgol
Mae darllen gyda ac i’ch plentyn yn cael effaith uniongyrchol ar eu mwynhad hwythau o ddarllen. Mae hefyd o fudd iddyn nhw eich gweld chi yn darllen er mwyn eich pleser chi.
Pan mae plant yn siarad, mae’n iawn i’w cywiro nhw yn dyner fel bod eu iaith mor gywir â phosib. Er enghraifft, petaen nhw’n dweud “Ble mae fy pêl?”, gallwch chi eu hatgoffa nhw “Ble mae fy mhêl?”. Gwnewch hyn yn Saesneg hefyd.
Mae modelu sgiliau iaith da - gwrando a siarad - yn gwneud gwahaniaeth mawr. Pan maen nhw’n siarad gyda chi, cymaint ag sy’n bosib, gwnewch a chadwch gyswllt llygad da, byddwch yno gyda nhw a gadewch iddyn nhw siarad cyn i chi ymateb.
Mae’n demtasiwn naturiol i gymharu eich plentyn chi â phlant eraill rydych chi’n eu hadnabod neu eu gweld. Gwnewch eich gorau i gofio bod pawb yn unigryw ac ar eu siwrne bersonol nhw. Osgowch y fagl o boeni yn ormodol os ydy eich plentyn chi o flaen neu tu ôl i’w cyfoedion.
Ple bo’u hanghenion meddygol yn caniatau, rydym yn disgwyl i blant sy’n dechrau ysgol i fedru defnyddio’r ty bâch yn annibynnol.
Am ragor o wybodaeth am y ffordd rydyn ni’n deall oedrannau a chamau datblygiad, ewch i'n tudalen 'oedrannau'..
Os oes diddordeb gennych mewn datblygiad plant, mae’r wefan yma (wedi’i datblygu gan GIG yr Alban) yn adnodd defnyddiol.
Os ydy’ch plentyn chi rhwng 2 a 3 mlwydd oed, efallai bydd yr holiadur yma o ddiddordeb.
Os ydych plentyn chi rhwng 4 a hanner a 5 mlwydd oed, efallai bydd yr holiadur yma o ddiddordeb.
Mae cydberthynas gref rhwng presenoldeb a chynnydd. Gofynnwn i chi ystyried yn ofalus cyn gwneud cais am wyliau yn ystod y tymor ysgol.
Hawl Pennaeth yr ysgol ydy rhoi neu wrthod caniatâd ar gyfer gwyliau yn ystod y tymor ysgol.
Cwblhewch y ffurflen gais am wyliau.
Os ydych yn gymwys, oes! Bydd yr adran yma yn ddefnyddiol i chi.
Cofiwch hefyd am y dillad ail-law sydd ar gael oddi wrth yr ysgol. Am ragor o wybodaeth, danfonwch e-bost i’r swyddfa. Opsiwn arall ydy cyfnewidfa gwisg ysgol y CRhA
Nac oes - dim o gwbwl. Mae croeso cynnes i’r hen fathodyn a’r bathodyn newydd yn Ysgol Sant Baruc.
Mae tri llys: Buddug, Glyndŵr a Llywelyn.
Buddug: Brenhines Geltaidd oedd Buddug sy’n enwog am arwain byddin yn erbyn nerth yr Ymerodraeth Rufeinig.
Glyndŵr: Arweinydd oedd Owain Glyndŵr a gysegrodd ei fywyd i’r gorchwyl o ddod a teyrnasyddiaeth Lloegr ar Gymru i ben.
Llywelyn: Llywelyn ein Llyw Olaf oedd tywysog olaf Cymru.
Mae plant yn cael eu gosod mewn llysoedd ar yr un pryd ag y maen nhw’n cael eu cofrestru gyda’r ysgol. Bydd rhieni yn cael gwybod fel rhan o’r pecyn croeso
Dydy brodyr a chwïorydd ddim bob tro yn yr un llys - mae magu annibynniaeth yn beth da!
Mae’r llysoedd yn ffordd o annog cystadlu iâch o fewn yr ysgol ac o wneud ffrindiau gyda phlant o bob oedran. Mae’r llysoedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn wythnosol drwy gasglu pwyntiau llys, ac yn flynyddol yn yr Eisteddfod a’r Mabolgampau.
Mae plant yn gwisgo lliwiau eu llys yn rhan o’u gwisg ymarfer corff.
Dodwch hi fel hyn, ar fy nhystysgrif geni mae ‘na enw swyddogol ond, dim ond Mam sy’n ei ddefnyddio fe - a hynny pan y’f fi mewn trafferth! Ein enw swyddogol ni ydy Ysgol Gymraeg Sant Baruc ond mae’n dipyn o lond ceg felly mae Sant Baruc yn gwneud y tro yn fwy aml na heb.
Mynach oedd Baruc a oedd, yn ôl y chwedlau, yn byw yng nghyffiniau Bro Morgannwg yn y 5ed a’r 6ed ganrif. Mae hanes Sant Baruc yn un o garedigrwydd aberthol a chyfeillgarwch. Baruc sy’n rhoi ei enw i dref y Barri ac, o enwi ein hysgol ni, yn rhoi ei natur i’n hysgol ni hefyd.
Trefniadau cael lle yn yr ysgol
Mae plant yn dechrau yn Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn y Meithrin yn y lle cyntaf. Yna, os oes lle, maen nhw’n derbyn lle llawn amser yn y Derbyn.
Maen rhaid gwenud cais am y Meithrin ac yna gwneud cais am y Derbyn.
Mae’r plant Meithrin yn yr ysgol am y bore neu am y prynhawn ond mae’r Derbyn yn yr ysgol drwy’r dydd.
Gallwch wneud cais am le Meithrin ar gyfer y tymor ar ôl i’ch plentyn droi’n dair.
Gall y dyddiadau dechrau fod yn ben tost felly dyma chi mor syml a phosib:
- Os ydy pen-blwydd eich plentyn rhwng Medi a Rhagfyr 31ain, byddan nhw’n dechrau’r Meithrin yr Ionawr ar ôl troi’n dair.
- Os ydy pen-blwydd eich plentyn rhwng Ionawr y 1af a diwedd y gwyliau Pasg, maen nhw’n dechrau’r Meithrin ar ôl y gwyliau Pasg.
- Os ydy pen-blwydd eich plentyn rhwng Pasg ac Awst 31ain, byddan nhw’n dechrau ym mis Medi.
Golyga hyn y gall eich plentyn chi fod yn y Meithrin am 5 tymor, yn amodol ar pryd mae’u pen-blwydd nhw.
Dydy’r Meithrin ddim yn statudol ond maen gosod sylfaen dda i fywyd ysgol a dechrau trochi’r Gymraeg mor gynnar â phosib.
Mae’r Derbyn yn statudol - rhaid i bob plentyn oedran Derbyn fod wedi’u cofrestru mewn Ysgol y mis Medi wedi iddyn nhw droi’n bedair.
Mae llefydd ysgol yn cael eu rheoli gan yr awdurdod lleol a does gan yr ysgol ddim rheolaeth, dylanwad na barn am bwy sy’n cael cynnig lle.
Dechrau yn yr Ysgol - Cyngor Bro Morgannwg
Mae ceisiadau Meithrin a Derbyn yn brosesau gwahanol, ar wahan o’u gilydd. Dydy lle yn y Meithrin ddim yn waranti o le yn y Derbyn.
Yr Awdurdod Lleol - nid yr ysgol na’r llywodraethwyr
Mae’r rhan fwyaf o rieni yn gymwys i hawlio arian tuag at gostau gofal plant.
Cewch ragor o fanylion ar wefan Cyngor Bro Morgannwg:
Teithio
Lleolir Ysgol Sant Baruc ar y glannau - yng nghalon un o’r ardaloedd mwyaf newydd, cyffrous yn y Barri. Ffordd y Mileniwm ydy’r cyswllt ar hyd y glannau, ac ar y ffordd yma cewch y campws. Rydym ni gyferbyn â ASDA ac mae ein caeau chwarae gyfochr â’r Goodsheds.
Os ydych chi’n bwriadu gyrru car, nodwch does dim parcio ar gael ar y campws yn ystod oriau ysgol.
Byddwch yn ystyriol o’r cymdogion wrth barcio ar y strydoedd cyfagos.
Os ydych chi’n llogi cyfleusterau, bydd defnydd o’r maes parcio ar gael i chi.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn hyrwyddo Teithio Llesol o fewn y sir.
Rydym wrth ein bodd yn gweld plant yn cyrraedd ar droed, ar feic, neu ar sgwter. Cewch gyfleusterau diogel, sych i gadw beiciau a sgwteri ar y campws
Mae Bws Caerdydd rhif 94 a 95 yn galw yn agos iawn i’r campws: Gwasnaeth Bws Caerdydd
Os am gynllunio eich taith i’n hysgol ni, gall y wefan yma fod o gymorth: Cynllunio Teithio - Cyngor Bro Morgannwg