Mae iechyd a datblygiad corfforol, iechyd meddwl, a lles cymdeithasol ac emosiynol yn feysydd eang sy’n gorgyffwrdd, ac mae nerth sylfaen felly yn gosod llwyfan er mwyn dysgu.
Mae cyfleoedd i ddatblygu iechyd corfforol wedi’u dosbarthu ar hyd y cwricwlwm. Maen nhw’n cynnwys gwersi ymarfer corff wythnosol sy’n datblygu sawl disgyblaeth wahanol, clybiau ar ôl ysgol, ymweliadau preswyl (sy’n arbenigo mewn cyfleoedd chwarae anturus a mentrus), a gweithgarwch byw’n iach fel Teithio Llesol ac Ysgolion Iach.
Mae plant yn dysgu pa fwydydd sydd angen osgoi eu bwyta mewn gormodedd ac sut mae gwneud dewisiadau da. Mae'n rhan o’r rheswm rydym mor angerddol dros y bwyd sy’n cael ei weini i blant Ysgol Sant Baruc.
Cymuned yw ein hysgol ni, ac felly rydym yn gosod pwyslais arbennig ar ansawdd y perthnasau rhwng plant, staff a rhieni.
Mae’n cwricwlwm wedi’i ddylunio fel ein bod yn gweithio’n galed i ddeall natur cyfeillgarwch, a sut mae chwarae a chyd-weithio gyda’n gilydd.
Rydym yn ystyried y grym sydd gan berthnasau i adfer.
Rydym yn dysgu pa mor bwysig ydy hi i ymddiheuro a maddau.
Rydym yn garedig, yn dosturiol, a thrugarog.
Rydym ni’n credu bod pawb â gwerth cynhenid, â’u bywydau yn arwyddocaol ac yn bwysig.
Mae’r gwerthoedd yma yn treiddio trwy’r ysgol i gyd.
Nid pethau rydym ni’n eu gwneud ydy rhain, dyma’n ffordd ni o fod.