Yn rhan o’r newidiadau sylweddol sy’n digwydd i addysg yng Nghymru, mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribwynlys Addysg. Mae’r ddeddf hon yn newid y modd mae pobl o dan 25 gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael eu cefnogi mewn addysg.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi’r person yng nghanol popeth - mae’r Ddeddf ADY yn gwneud yr un peth. Yn Ysgol Sant Baruc, mae hyn yn ein siwtio ni i’r dim: rydym wedi cyfamodi i union yr un peth.
Nod y Ddeddf ADY ydy darparu addysg llwyr gynhwysol i blant a phobl ifanc yng Nghymru ple bo’i hanghenion nhw yn cael eu hadnabod a’u cwrdd â nhw yn gynnar.
Yn Ysgol Sant Baruc, rydym ni’n credu taw’r ddarpariaeth gyffredinol orau ar gyfer ADY ydy addysgu o ansawdd uchel drwy’r ysgol, i bawb - dysgu sy’n cynnwys pawb a sicrhau cynnydd i bawb. Mae hyn yn caniatau adnabod meysydd datblygu a chamau ymlaen.
Mae’r gwaith ADY yn cael ei oruchwylio gan yr Uwch Dîm Arwain, o dan arweiniad y Pennaeth Cynorthwyol a Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, Mr Steffan Elis.
Mae Tîm ADY yr ysgol yn atebol i'r Llywodraethwyr. Llywodraethwr cyswllt ADY ydy Mrs. Jo Sullivan.
I ddarllen datganiad Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol, pwyswch yma.
Adnabod Anghenion Dysgu Ychwanegol
I benderfynnu a oes Anghenion Dysgu Ychwanegol gan blentyn, mae'r ysgol yn holi dau gwestiwn.
1) Oes gan y plentyn anabledd neu anhawster dysgu? ac
2) A yw’r anabledd neu’r anhawster dysgu hwnnw’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol?
Os taw ateb y ddau gwestiwn ydy 'oes' ac 'ydy', yna mae Anghenion Dysgu Ychwanegol gan y plentyn.
Cynllun Datblygu Unigol
Dogfen gyfreithiol yw’r CDU sy’n disgrifio anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc, y cymorth sydd ei angen arnyn nhw a’r canlyniadau yr hoffent eu cyflawni.
Mae’n “gynllun” oherwydd ei fod nid yn unig yn disgrifio’r ADY, ond mae hefyd yn cynllunio’r camau y mae’n rhaid eu cymryd ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc. Mae hefyd yn darparu cofnod er mwyn gallu monitro ac adolygu cynnydd plentyn neu berson ifanc.
Bwriad y CDU yw bod yn ddogfen hyblyg. Bydd yn amrywio o ran hyd a chymhlethdod yn dibynnu ar anghenion gwahanol y plentyn neu’r person ifanc.
Bydd y CDU yn cael ei adolygu bob 12 mis a bydd yn newid yn ôl anghenion newidiol y plentyn neu’r person ifanc.
Dydy dod i’r afael ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a gwneud yn siwr eich bod chi’n gwneud y peth iawn a derbyn y cymorth cywir ddim yn hawdd. Rydym ni’n deall hynny. Ein nod ydy cyd-weithio ar hyd y broses o adnabod anghenion, gosod darpariaeth mewn lle i sicrhau cynnydd ac adolygu er mwyn mireinio.
Os ydych chi’n dymuno cael rhagor o wybodaeth sydd yn annibynnol o gyngor ac arweiniad yr ysgol, pwyswch y dolenni yma. Cewch esboniadau o’r amryw brosesau a chael esboniad o dermau neu dalfyrriadau anghyfarwydd.
Dogfen: Beth i’w ddisgwyl rhieni
Dogfen: Cymorth i blant
Dogfen: Cymorth i rieni
Dogfen: Adnodd rhieni ADY
Dogfen: ADY canllaw rhieni
Mae SNAP Cymru yn gorff sy'n cefnogi rhieni plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol and yn medru cynnig cyngor di-duedd i rieni.
Yr Awdurdod Lleol
Cewch wybodaeth bellach am Anghenion Dysgu Ychwanegol ar wefan yr Awdurdod Lleol.